Who we are

We are a research team made up of academic and research staff from Trinity College Dublin in Ireland and Bangor University in Wales. The team has extensive experience in energy technology, environmental impact assessments, climate change and business collaboration. The project runs until March ‘23, and is supported through the Ireland-Wales Co-operation Programme 2014-2020.

Pwy ydyn ni

Rydym yn dîm o staff academaidd ac ymchwil yng Ngholeg y Drindod, Dulyn yn Iwerddon a Phrifysgol Bangor yng Nghymru. Mae gan y tîm brofiad helaeth ym maes technoleg ynni, asesiadau effaith amgylcheddol, newid hinsawdd a chydweithio â busnes. Mae’r prosiect yn rhedeg tan fis Mawrt '23 ac fe’i cefnogir drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020.

Improving the efficiency of water distribution in Ireland and Wales is at the core of the project ethos. This will be achieved by developing new low carbon, energy-saving technologies and services. We will trial energy recovery technologies at several demonstration sites in both countries before being launched on the market. We will build a capacity for innovation in the water industry through our cluster of organisations interested in sustainability in the water-energy nexus.

Gwella effeithlonrwydd dosbarthu dŵr yng Nghymru ac Iwerddon yw ethos greiddiol y prosiect. Cyflawnir hyn drwy ddatblygu technolegau a gwasanaethau carbon isel newydd sy’n arbed ynni. Byddwn yn treialu technolegau adfer ynni mewn sawl safle arddangos yn y ddwy wlad cyn eu lansio ar y farchnad. Byddwn yn adeiladu capasiti arloesi yn y diwydiant dŵr drwy ein clwstwr o sefydliadau sydd â diddordeb mewn cynaliadwyedd yn y rhwydwaith ynni-dŵr.


Our shared history

The Dwr Uisce project was preceded by the Hydro-BPT, another collaborative project between Trinity College Dublin and Bangor University. This project solely focused on quantifying the potential of energy recovery using micro-hydropower in water infrastructure, therefore Dwr Uisce is a natural progression in delivering and demonstrating the potential identified in the Hydro-BPT project.  More information about the Hydro-BPT project can be found here.

Ein hanes

Rhagflaenydd y prosiect Dŵr oedd Hydro-BPT, prosiect arall ar y cyd rhwng Coleg y Drindod, Dulyn a Phrifysgol Bangor. Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fesur potensial adfer ynni gan ddefnyddio pŵer dŵr-micro mewn seilwaith dŵr, felly mae Dŵr Uisce yn ddilyniant naturiol o ran cyflawni a dangos y potensial a gafodd ei adnabod yn y prosiect Hydro-BPT. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect yma.


What is our ambition? To innovate in the water sector

To understand where energy efficiency opportunities exist, we undertake cross-border and cross-sectoral auditing and benchmarking assessments to support a market assessment in the performance of the water sector. By undertaking environmental and economic assessments of the regional potential, it delivers best practice and identify cost effective systems, balanced with low-carbon and resource-efficient design.  

Beth yw ein nod?Y capasiti i arloesi yn y sector dŵr

Er mwyn deall lle mae cyfleoedd effeithlonrwydd ynni yn bodoli, byddwn yn cynnal asesiadau archwilio a meincnodi trawsffiniol a thraws sector i gefnogi asesiad marchnad ym mherfformiad y sector dŵr. Trwy gynnal asesiadau amgylcheddol ac economaidd o’r potensial rhanbarthol, bydd yn cyflwyno arfer gorau gan adnabod systemau cost effeithiol ar y cyd â dyluniad carbon isel sy’n effeithlon o ran adnoddau. Bydd pecyn cynllun eco yn cael ei gynhyrchu’n benodol ar gyfer y sector dŵr i gefnogi cylch gorchwyl cynyddol yr economi gylchol. 

 

Technology and services to meet the challenge

New smart and low-carbon technologies are required to achieve energy recovery in the water sector, and this is delivered at four demonstration sites in Ireland and Wales. Furthermore, the potential impact of the technology platforms (micro-hydropower, drainwater heat recovery and smart network controls) for energy saving in the water sector will be quantified.

Technoleg a Gwasanaethau i fynd i’r afael â’r her

Er mwyn cyflawni adferiad ynni yn y sector dŵr, mae angen technolegau clyfar a charbon isel newydd, a chaiff hyn ei ddarparu mewn pedwar safle arddangos yn Iwerddon a Chymru. At hynny, byddwn yn meintioli effaith bosibl y llwyfannau technoleg (ynni-dŵr - micro, adfer gwres dŵr draen a rheoli rhwydwaith clyfar) ar gyfer arbed ynni yn y sector dŵr.

Stimulating collaboration through a smart specialisation cluster

The importance of sharing information between organisations is recognised as a key factor in the success of this project. Therefore, the Ireland-Wales Water-Energy network facilitates knowledge transfer through a range of dissemination events and material, as well as promote an action learning network to stimulate new innovative supply relationships in the region. We support existing and emerging technology, policies, regulations and other measures which can contribute to greater sustainability in the sector.

Ysgogi cydweithio drwy glwstwr arbenigo clyfar

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau fel ffactor allweddol yn llwyddiant y prosiect hwn.  Felly, bydd Rhwydwaith Ynni-Dŵr Iwerddon Cymru yn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth drwy drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhannu deunyddiau, yn ogystal â hyrwyddo rhwydwaith dysgu gweithredol i feithrin cysylltiadau cyflenwi arloesol yn y rhanbarth. Byddwn yn cefnogi technoleg sy’n bodoli eisoes ynghyd â thechnolegau, polisïau, rheoliadau a mesurau newydd sbon eraill a all gyfrannu at fwy o gynaliadwyedd yn y sector.

Looking forward, addressing climate change impacts

Climate change can impact our most valuable resource and will affect the future availability of water in Ireland and Wales. The implications are examined and quantified, considering the knock-on effects on water availability, energy consumption and the economy in both regions. An improved understanding of how climate change will directly and indirectly impact on the demand for water needs to be better understood. This helps deliver recommendations for the water industry to address future uncertainties to prevent regional water stress. 

Edrych ymlaen, mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd

Gall newid hinsawdd effeithio ar ein hadnodd mwyaf gwerthfawr gan effeithio ar argaeledd dŵr yn y dyfodol yn Iwerddon a Chymru. Bydd y goblygiadau yn cael eu harchwilio a’u meintioli, gan ystyried y sgil-effeithiau ar argaeledd dŵr, ar ddefnydd ynni ac ar yr economi yn y ddau ranbarth. Mae angen gwell dealltwriaeth o sut gall newid hinsawdd effeithio’n uniongyrchol ac anuniongyrchol ar y galw am ddŵr. Bydd yn gymorth i gynnig argymhellion i’r diwydiant dŵr ar sut i fynd i’r afael ag ansicrwydd y dyfodol i atal pwysau rhanbarthol ar ddŵr.