Join us on 23 February 2021 at 2pm for a panelist discussion on heat recovery potential of leisure centres

Join us on 23 February 2021 at 2pm for a panelist discussion on

Heat recovery potential of leisure centres: opportunities, challenges, and risks

Description

Climate change poses significant challenges and the global community is not on track to meet sustainable development targets or the Paris Agreement to mitigate climate change. The Covid-19 pandemic and necessary government measures to curb the spread of the virus has put climate action on hold and shut down economies. The need for improved ventilation as an important mitigating factor against the risk of Covid-19 transmission has additional implications for costs and emissions for businesses.   

Leisure centres, as large users of water and energy, are faced with high operational costs and will also be generating significant emissions of greenhouse gases. However, heat recovery technology can yield very significant reductions in water and water-related energy demands and costs without impacting service quality and delivery. These reductions can be a promising response to the current challenges of climate change and post Covid-19 economic recovery.

To discuss energy demands in leisure centres and the important contributions to emissions and cost reductions that can be made through heat recovery, the Dŵr Uisce project (https://www.dwr-uisce.eu/) is hosting an expert panel discussion on heat recovery as one of the several ways these reductions can be made.

The panellists will be discussing a range of questions and some of the current opportunities, challenges, and risks associated with installing heat recovery in leisure centres in order to promote conversation and ideas on how leisure centres can take action that can save costs and improve their environmental footprint in the process.

Objectives

The objectives of the panel discussion are:

  •   To introduce our research on heat recovery in leisure centres to key stakeholders

  • To discuss possible options to these challenges of climate change and post Covid-19 economic recovery

  • To develop partnerships and a network of people working on reducing the operational costs and greenhouse gas emissions associated with leisure centres

Themes: Climate change, climate action, heat recovery, post Covid-19 recovery, sustainability

REGISTER HERE.

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn cyflwyno heriau sylweddol ac nid yw’r gymuned fyd-eang ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau datblygu cynaliadwy na Chytundeb Paris i liniaru'r newid yn yr hinsawdd. Mae pandemig Covid-19 a mesurau angenrheidiol y llywodraeth i leihau lledaeniad y feirws wedi golygu bod camau i weithredu o blaid yr hinsawdd yn cael eu gohirio a’r economi wedi dioddef yn enbyd. Mae’r angen am well awyru fel ffactor lliniaru pwysig yn erbyn y risg o drosglwyddo Covid-19 yn arwain at oblygiadau ychwanegol o ran costau ac allyriadau ychwanegol i fusnesau.  

Mae canolfannau hamdden, sy’n defnyddio llawer o ddŵr ac ynni, yn gyson yn wynebu costau gweithredu uchel ac maent yn gyfrifol am allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr. Fodd bynnag, gall technoleg i adfer gwres arwain at ostyngiadau sylweddol iawn yn y galw am ddŵr ac ynni sy’n gysylltiedig â dŵr, yn ogystal a chostau cysylltiedig heb effeithio ar ansawdd a darpariaeth y gwasanaeth. Gall y gostyngiadau hyn fod yn ymateb addawol i heriau presennol y newid yn yr hinsawdd ac adferiad economaidd ar ôl Covid-19.

I drafod gofynion ynni mewn canolfannau hamdden a’r cyfraniadau pwysig i allyriadau a lleihau costau y gellir eu gwneud drwy adfer gwres, mae prosiect Dŵr Uisce (https://www.dwr-uisce.eu/) yn cynnal trafodaeth banel arbenigol ar adfer gwres fel un o’r ffyrdd niferus y gellir gwneud y gostyngiadau hyn.

Bydd y panelwyr yn trafod amrywiaeth o gwestiynau ac yn rhoi sylw i rai o’r cyfleoedd, yr heriau a’r risgiau presennol sy’n gysylltiedig ag adfer gwres mewn canolfannau hamdden er mwyn hybu sgyrsiau am adnoddau a syniadau ynghylch sut gall canolfannau hamdden arbed costau a gwella eu ôl troed amgylcheddol yn y broses.

Amcanion trafodaeth y panel yw:

  • Cyflwyno ein ymchwil ar adfer gwres mewn canolfannau hamdden i randdeiliaid allweddol

  • I drafod camau posib fel atebion i’r heriau presennol y newid yn yr hinsawdd ac adferiad economaidd ar ôl Covid-19

  • Datblygu partneriaethau a rhwydwaith o randdeiliaid allweddol sy’n gweithio ar leihau allyriadau a chostau gweithredu sy’n gysylltiedig â chanolfannau hamdden

Themâu: Newid yn yr hinsawdd, gweithredu o blaid yr hinsawdd, adfer gwres, adfer ar ôl Covid-19, cynaliadwyedd

COFRESTRWCH YMA.

pablo.png

Heat recovery potential of leisure centres

Opportunities, challenges, and risks