Welcome/Croeso/Fáilte
Welcome to our Spring 2022 Newsletter, bringing you up to date on the Dŵr Uisce project.
In this edition, we highlight the Dŵr Uisce team’s continued commitment to provide solutions to improve the sustainability of the water sector and to spread the message. You can read about the progress made in our technological solutions in drain water heat recovery systems, as well as updates on micro-hydropower and insights on smart network control. A look at sustainability from three different perspectives offers the opportunity to reflect on the relevance of our work to theory and practice in achieving a sustainable water sector. Individually and collectively, we have engaged in numerous activities: from a new webinar for the hospitality sector in Ireland and Wales to presenting our work in a series of videos to make our research accessible to a wider audience, to publishing our findings in academic journals.
We hope you will enjoy the variety of topics and wish you an energy efficient and environmentally friendly summer season!
——————————————————
Croeso i Newyddlen Gwanwyn 2022 sy’n dod â'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am broject Dŵr Uisce.
Yn y rhifyn hwn, rydym yn tynnu sylw at ymrwymiad parhaus tîm Dŵr Uisce i gynnig atebion i wella cynaliadwyedd y sector dŵr ac i ledaenu'r neges. Gallwch ddarllen am y cynnydd a wnaed gyda datrysiadau technolegol ar gyfer systemau i adennill gwres o ddŵr gwastraff, yn ogystal â diweddariadau am ynni dŵr micro a sylw i reolaeth rhwydwaith clyfar. Mae edrych ar gynaliadwyedd o dri safbwynt gwahanol yn cynnig y cyfle i adfyfyrio ar berthnasedd ein gwaith i theori ac ymarfer wrth fynd ati i wireddu sector dŵr cynaliadwy. Yn unigol ac ar y cyd, rydym wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau: o weminar newydd ar gyfer y sector lletygarwch yn Iwerddon a Chymru i gyflwyno ein gwaith mewn cyfres o fideos i wneud ein hymchwil yn hygyrch i gynulleidfa ehangach, a chyhoeddi ein canfyddiadau mewn cyfnodolion academaidd.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau'r amrywiaeth o bynciau yn y newyddlen ac y cewch haf ynni-effeithlon ac amgylcheddol gyfeillgar!