Our Autumn Newsletter is out. You can view it here.
Welcome to our Autumn 2021 Newsletter, bringing you up to date on the Dŵr Uisce project.
The publication in late summer of the 6th Intergovernmental Panel on Climate Change assessment report has sent out to the world a clear and powerful message: we need to take ambitious action against climate change now. The Dwr Uisce team has continued in its commitment to provide solutions to improve the sustainability of the water sector and to spread the message. Individually and collectively, we have engaged in numerous activities: from delivering outreach events to launching a Citizen Science project, from designing a new webinar to presenting our findings at research conferences and online meetings.
In this Newsletter, you can read about our call to action for Irish households to contribute to the reduction of greenhouse gas emissions in Ireland, and the launch of the survey on Water Energy efficiency in Irish households. Then, Dr Nathan Walker takes us through the lessons learnt from international energy benchmarking of wastewater treatment. For an insightful economic assessment of the water sector in Ireland and Wales, do not miss Dr Annum Rafique’s piece. Finally, you can read the latest research updates and publications from our researchers, including Dr Richard Dallison’s timely findings on the impact of future climate change on water resources.
We take this opportunity to wish all our followers and cluster members a climate action-filled Autumn!
——————————————————
Croeso i'n Cylchlythyr Hydref 2021, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am brosiect Dŵr Uisce.
Mae cyhoeddi 6ed adroddiad asesiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd ddiwedd yr haf wedi anfon neges glir a phwerus i'r byd: mae angen i ni gymryd camau uchelgeisiol yn erbyn newid yn yr hinsawdd nawr. Mae tîm Dŵr Uisce wedi parhau yn ei ymrwymiad i ddarparu atebion i wella cynaliadwyedd y sector dŵr ac i ledaenu’r neges. Yn unigol ac ar y cyd, rydym wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau: o gyflwyno digwyddiadau allgymorth i lansio prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion, o ddylunio gweminar newydd, i gyflwyno ein canfyddiadau mewn cynadleddau ymchwil a chyfarfodydd ar-lein.
Yn y Newyddlen hon, gallwch ddarllen am ein galwad i weithredu i aelwydydd yn Iwerddon gyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn Iwerddon, a lansiad yr arolwg ar effeithlonrwydd Ynni Dŵr ar aelwydydd yn Iwerddon. Yna, mae Dr Nathan Walker yn ein tywys trwy'r gwersi a ddysgwyd o feincnodi ynni rhyngwladol ar gyfer trin dŵr gwastraff. I gael asesiad economaidd craff o’r sector dŵr yn Iwerddon a’r DU, peidiwch â cholli darn Dr Annum Rafique. Yn olaf, gallwch ddarllen y diweddariadau a'r cyhoeddiadau ymchwil diweddaraf gan ein hymchwilwyr, gan gynnwys canfyddiadau amserol Dr Richard Dallison ar effaith newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ar adnoddau dŵr. Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddymuno Hydref llawn egni i'n holl ddilynwyr ac aelodau clwstwr!